Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Adroddiad ar y Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 (Saesneg yn unig)    

 

 

Y Cefndir

 

1.       Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyflwyno hysbysiad ynglŷn âchynnig

“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011(“y Ddeddf”), fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EM a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 (“y Gorchymyn”), yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.”

 

2. Trafodwyd y Memorandwm hwn yn unol â’r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 7 Chwefror 2012. Trefnwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y cynnig hwn ar gyfer 17 Gorffennaf 2012 yn amodol ar farn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

3. Ysgrifennodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder at Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2012 i geisio cytundeb i osod cynnig cydsyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y darpariaethau yn y Gorchymyn hwn sy’n dod o dan adran 9(6) o’r Ddeddf. Cydsyniwyd â’r cais. Gosodwyd y Gorchymyn o dan adran 11 o’r Ddeddf ar 10 Mai 2012 gerbron Tŷr Cyffredin gan Kenneth Clarke, yr Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd yr Offeryn hwn ei ystyried gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol ar 23 Mai 2012, ac ni nodwyd unrhyw faterion i adrodd amdanynt i’r ddau Dŷ. Daw’r cyfnod craffu yn Nhŷr Cyffredin i ben ar 25 Mehefin 2012.

 

Y Gorchymyn:-

 

4. Gwneir y Gorchymyn o dan adrannau 1, 6(1), (2)(a) a (5) a 35(2) o’r Ddeddf.

 

5. Nid yw hwn yn Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o fewn ystyr Rheol Sefydlog 30, gan nad yw’n ymwneud â darpariaethau sydd wedi’u cynnwys mewn Bil gerbron Senedd y DU. Er hynny, mae’n debyg i’r graddau ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sy’n gymwys yng Nghymru mewn perthynas â mater sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, hy Galluedd Meddyliol. Gellir cymharu hyn â’r Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau, etc.) 2012, a oedd yn ehangu cymhwysiad egwyddor cydsyniad deddfwriaethol i gynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol a wneir drwy Orchymyn gan Weinidogion y DU.[1]

 

6. Mae’r Gorchymyn yn diddymu Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus (“y Bwrdd”) a sefydlwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Dyletswydd y Bwrdd yw adolygu a chraffu ar y modd y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyflawni ei swyddogaethau a gwneud trefniadau priodol i’r Arglwydd Ganghellor. Mae’r swyddogaethau a roir i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w gweld yn adran 58 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ac yn cynnwys swyddogaethau goruchwylio mewn perthynas ag unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau. Gwneir y penderfyniad i ddiddymu’r Bwrdd yn sgîl canlyniad adolygiad Llywodraeth y DU o gyrff cyhoeddus yn 2010. Yr hyn y bwriedir ei wneud wedi diddymu’r Bwrdd yw disodli swyddogaethau’r Bwrdd drwy gryfhau’r trefniadau llywodraethu o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n bodoli fel asiantaeth weithredol i Lywodraeth y DU. Nid oes trosglwyddo swyddogaethau mewn cysylltiad â’r Bwrdd. Yn ogystal â diddymu’r Bwrdd, byddai’r Gorchymyn yn gwneud diddymiadau a dirymiadau yn gysylltiedig â’r diddymu.

 

7. Mae hwn yn Orchymyn Cyfansawdd sydd hefyd yn cynnwys diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi. Sefydlwyd yr arolygiaeth o dan adran 58 o Ddeddf Llysoedd 2003 ac mae ganddi ddyletswydd statudol i arolygu a chyflwyno adroddiadau i’r Arglwydd Ganghellor ar y system sy’n cefnogi cynnal busnes y Goron, llysoedd Sirol a llysoedd Ynadon a’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y llysoedd hynny. O ran yr arolygiaeth, trosglwyddir dwy swyddogaeth i Brif Arolygydd Carchardai Ei Mawrhydi. Fodd bynnag, nid yw’r arolygiaeth yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Y Memorandwm Cydsyniad

 

8. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â “galluedd meddyliol” (o dan Bwnc 9 (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) Atodlen 7; a Phwnc 15 (Lles Cymdeithasol) Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Mae o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu rhyw fath o drefn sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer atal, trin a lliniaru anhwylder meddyliol a/neu ar gyfer gwarchod rhai sy’n agored i niwed. Bernir bod y cymhwysedd hwn yn ddigon eang i sefydlu bwrdd y rhoir iddo’r dasg o gefnogi a diogelu hawliau unigolion sydd ag anhwylder meddyliol a hefyd i sefydlu corff sy’n arfer swyddogaethau tebyg i’r Bwrdd mewn perthynas â Chymru. I’r graddau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd i greu corff o’r fath, byddai ganddo hefyd y pŵer i’w ddiddymu.

 

9. Mae adran 9(6) o’r Ddeddf yn datgan bod gorchymyn i ddiddymu, cyfuno neu drosglwyddo swyddogaethau corff cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad pe bai’n cael ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad. Mae adran 9(7) o’r Ddeddf yn datgan bod gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth nad yw’n dod o fewn is-adran (6) sydd un ai’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol.

 

10. Mae’r Gorchymyn, drwy ddiddymu’r Bwrdd, yn deddfu ar gyfer diben sy’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, ac o’r herwydd gofynnir am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 9(6) o’r Ddeddf, i’r graddau bod y Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddiddymu’r Bwrdd mewn perthynas â Chymru. Mae diddymu’r Bwrdd yn bodloni’r meini prawf a nodir o dan adran 9(6) o’r Ddeddf, gan fod gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd mewn perthynas â thriniaeth feddygol a gwasanaethau iechyd, lles cymdeithasol a gofal am rai sy’n agored i niwed.  Nid yw diddymu’r Bwrdd yn bodloni’r meini prawf o dan adran 9(7) o’r Ddeddf. Nid yw diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn bodloni’r meini prawf o dan adran 9(6) nac adran 9(7) o’r Ddeddf.

 

Casgliad

 

11. Ystyriodd y Pwyllgor CLA CM4 – Y Memorandwm Cydsyniad ar gyfer y Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012. Er y nodwyd y byddai wedi bod yn gliriach diddymu Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus ac Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi drwy wneud dau orchymyn gwahanol, nododd y Pwyllgor nad oedd wedi canfod unrhyw reswm pam y dylid gwrthod rhoi cydsyniad i’r Gorchymyn.

 

12.     Mae’r Pwyllgor yn fodlon â’r wybodaeth sydd ar gael, ac yn adrodd i’r Cynulliad nad yw wedi canfod unrhyw reswm pam na ellir gwneud y Gorchymyn.

 

 

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol    

 

11 Mehefin 2012

 



[1] Memorandwm Cydsyniad y Gweinidog ar gyfer Gorchymyn Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau, etc.) 2012 a’r canllawiau sydd yn y Canllawiau ar Ddatganoli, Nodyn 9.